Paratoi TSI 2

1746403200000

Hoffwch chi weithio mewn gwlad arall yn ystod y gwyliau? Sefydlid cwmni newydd yng Nghasnewydd ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ac sy’n awyddus weithio tramor. Enw**‘r** cwmni yw Man Gwyn, ac mae’n canolbwyntio ar wledydd sydd â chysylltiad â Chymru ar draws y byd. Er enghraifft, mae cyfle i fynd i Batagonia a gweithio yn adeg y gwyliau gyda phlant sy’n mynychu ysgolion Cymraeg. Bydd y cwmni’n talu am eich tocyn awyren yn ogystal â’ch bwyd a’ch llety ym mhob gwlad.

Gwlad bell arall y mae’n bosib i chi weithio ynddi yw Seland Newydd. Medrwch weithio mewn cartrefi a gofalu am blant dan ddeuddeg oed, lle mae’r fam neu’r tad yn siarad Cymraeg ac eisiau iddyn nhw gael digon o gyfle i ymarfer yr iaith. Cynigodd sawl cyfle i weithio mewn gwledydd agosach na’r ddwy uchod. Beth am dreulio cyfnod yn Llydaw, neu yn Ysgol Gymraeg Llundain? Ewch amdani, ehangwch eich gorwelion! Cysylltwch â cwmni Man Gwyn i gael manylion pellach.