Paratoi TSI 4
Hoffech chi fyw yn America ar hyn o bryd, tybed? Mae ein hobsesiwn â’r lle’n mynd yn ôl dros amser maith, ac mae’r cysylltiadau’n ormod i’w rhestru. Cymerwch er enghraifft yr iaith Seisneg. Os gwrandewch chi ar raglenni teledu, mae’r iaith a siaredir gan actorion Americanaidd yn dra gahanol i iaith actorion o Loegr. Mae’r arbenigwyr ieithyddol yn rhagweld y byddwn ni’n siarad â’r un acen ymhen canrif neu lai.
Mae hi’n edrych yn debygol fod gwleidyddion y wlad hon yn dilyn yr un trywydd â’r un a welwyd yn yr Unol Daleithiau rhwng 2016 a 2020. Yn lle trafod, cyfaddawdu a dod i gytundeb, mae aelodau etholedig yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol yn erbyn ei gilydd. Dyna realiti bod yn wleidydd yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn anffodus, trodd y gwaith llywodraethu’n gêm i’w chwarae, nid yn alwedigaeth. Rhan o’r problem yw bod gwŷr busnes pwerus adain dde’n rheoli’r papurau newydd – y dynion yn y dirgel sy’n gwthio’r farn gyffredin i gyfeiriadau sy’n eu gynorthwyo i wneud elw. Rhan arall o’r broblem yw bod yr arweinydd a fu mewn grym yn America’n corddi’r dyfroedd, ond o leuaf fydd dim rhaid gwrando ar hwnnw mwyach.